#
Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:
Rhif y ddeiseb: P-05-746 Teitl y ddeiseb: Cludiant ysgol am ddim i bob plentyn yng Nghymru Testun y ddeiseb:
Yn dilyn toriadau
Llywodraeth y DU i gyllid y sector cyhoeddus a'r angen i'r cyngor
sicrhau arbedion sylweddol oherwydd hynny, mae cyngor Rhondda Cynon
Taf yn awr yn awyddus i godi tâl o £285 y flwyddyn o
fis Medi 2016 ymlaen ar bob plentyn sy’n cael cludiant rhwng
ei gartref a’r ysgol, neu £95 ar bob plentyn sy’n
cael prydau ysgol am ddim.
|
Cefndir cyfreithiol
Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn nodi'r gofynion cyfreithiol i awdurdodau lleol ddarparu cludiant rhwng y cartref a’r ysgol. Hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen yn dwyn y teitl Teithio gan Ddysgwyr - Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol (Mehefin 2014).
Mae Adran 444 o Ddeddf Addysg 1996 yn nodi ei bod yn drosedd i rieni beidio â sicrhau bod eu plant yn mynd i’r ysgol yn rheolaidd os ydynt wedi’u cofrestru mewn ysgol. Mae Adran 20 o’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) yn diwygio adran 444 i ddarparu y bydd gan riant amddiffyniad rhag cael ei erlyn os bydd awdurdod lleol wedi methu â chyflawni, lle bo angen, ei ddyletswyddau statudol o dan y Mesur i wneud trefniadau teithio i alluogi’r plentyn i fynd i’r ysgol.
Darpariaethau statudol a dewisol
Fel y nodir yn llythyr Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith at y Pwyllgor, rhaid i awdurdodau lleol ddarparu cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol os yw disgybl yn byw rhyw bellter penodol, neu ymhellach, o’r ysgol addas agosaf. Y pellter yw tair milltir neu ragor o'r ysgol uwchradd addas agosaf a dwy filltir yn achos ysgolion cynradd.
Mae gan awdurdodau lleol bwerau dewisol hefyd i ddarparu cludiant am ddim rhwng y cartref a'r ysgol. Mae Adran 6 o’r Mesur yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol wneud unrhyw drefniadau addas, yn eu barn nhw, i ganiatáu i ddysgwyr deithio rhwng eu cartref a’r man lle y cânt addysg neu hyfforddiant. Gallant ddefnyddio’r pŵer hwn mewn perthynas â dysgwyr sy’n byw neu’n astudio yn ardal yr awdurdod.
Fodd bynnag, oherwydd pwysau ar eu cyllideb, mae nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi adolygu eu darpariaeth ar gyfer cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Rhondda Cynon Taf
Rhwng 2 Mehefin a 28 Gorffennaf 2015, cynhaliodd Rhondda Cynon Taf ymgynghoriad ynghylch newidiadau arfaethedig i'w bolisi cludiant ysgol. Ar 8 Medi 2015, cytunodd Cabinet Rhondda Cynon Taf i ddechrau codi tâl mewn perthynas ag elfennau dewisol o'u polisi cludiant ysgol o fis Medi 2016 ymlaen. Fodd bynnag, ar 16 Mawrth 2016, cafodd y penderfyniad hwn ei wyrdroi gan Arweinydd y Cyngor.
Gwybodaeth ystadegol
Ni chaiff ystadegau eu cyhoeddi’n ganolog am nifer y disgyblion sy’n gallu hawlio cludiant am ddim rhwng y cartref ar ysgol ar hyn o bryd a’r disgyblion na all ei hawlio. Yn 2016/17, cyfanswm y costau a gyllidebwyd ar gyfer cludiant rhwng y cartref a’r ysgol gan awdurdodau lleol Cymru oedd £101,910,000.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol. |